Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
8 Ionawr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6072
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2 i 9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Cafodd cwestiynau 2 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1-8 a 10-11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 7, 10 ac 11 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gofynnwyd y cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
David Rees (Aberafan) Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg?
Dechreuodd yr eitem am 16.02
Gwnaeth Russell George ddatganiad am - Ymweliad cyntaf Knife Angel â Chymru.
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7221 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
2. Yn cydnabod yr angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol.
3. Yn cydnabod yr heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
1 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.
2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.
3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7221 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.
2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.
3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7224 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
41 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru.
2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
23 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7224 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru.
2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.51
Dechreuodd yr eitem am 18.54
NDM7194 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2020